Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2016

Amser: 09.08 - 09.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3942


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Neil McEvoy AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Jessica England (Dirprwy Glerc)

Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 297KB) Gweld fel HTML (72KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau'r cynllun monitro traffig, yn ogystal â sylwadau'r deisebydd bryd hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.

 

</AI4>

<AI5>

2.2   P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

·         Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro (a) effeithiolrwydd y gwasanaethau a chefnogaeth i blant ag awtistiaeth a'u rhieni, a (b) y canlyniadau a gyflawnwyd gan y cyllid a ddarperir; ac

·         Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn am eu hymateb i'r profiadau penodol a grybwyllwyd  gan y deisebydd.

 

</AI5>

<AI6>

2.3   P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn y Gymraeg

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y mater hwn a'r rheoliadau drafft syn deillio ohonynt; ac

·         yn y cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

2.4   P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater.

 

 

</AI7>

<AI8>

2.5   P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ragor o fanylion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r cynlluniau i archwilio gwelliannau i'r trethi annomestig, a chael gwybod a fydd cyfle i'r deisebydd  gyflwyno sylwadau ynglŷn â hyn.

 

</AI8>

<AI9>

2.6   P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am sylwadau gan y deisebydd; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am y broses ar gyfer penderfynu lefelau cymhorthdal ​​unigol ar gyfer 2017-18, a gofyn a fydd cyfle i'r deisebydd gyflwyno ei sylwadau ynglŷn â hyn.

 

</AI9>

<AI10>

2.7   P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae e'n adnabod y deisebwyr, ond nid oes ganddo gysylltiad â'r ddeiseb.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn dilyn cadarnhad yn y gyllideb ddrafft y bydd cyllid ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei gynnal yn 2017-18, cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater hwn.

 

</AI10>

<AI11>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI11>

<AI12>

3.1   P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cwrdd â'r deisebwyr yn rhinwedd ei swydd fel yr Aelod Cynulliad dros etholaeth Dwyrain Abertawe.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a godwyd yn y ddeiseb yn dilyn ei gyfarfod diweddar gyda'r deisebwyr.

 

</AI12>

<AI13>

3.2   P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae e'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am sylwadau gan y deisebydd ynglŷn â'r ymatebion manwl a gafwyd gan Lywodraeth Cymru; a

·         gofyn am farn y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

</AI13>

<AI14>

3.3   P-04-683 Coed mewn Trefi

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i rannu'r ymateb a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r deisebydd ac i ofyn am ei farn cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.

 

 

</AI14>

<AI15>

3.4   P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am ragor o fanylion ynglŷn â lleoliad posibl unrhyw orsaf newydd yng Ngabalfa, yn ogystal â sut a phryd y bydd cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu.

 

</AI15>

<AI16>

3.5   P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ceisio cael copi o gasgliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ofal iechyd yn ardal Ffestiniog er mwyn llywio rhagor o drafodaeth gan y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon; ac

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.

 

</AI16>

<AI17>

3.6   P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.

 

</AI17>

<AI18>

3.7   Papur i’w nodi

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>